Menu
School Logo
Language
Search

Neges y Dydd/Today's Message

Bore da! Dydd Lun 13/7/20

Dydd Iau/Thursday 9/07/2020

Dydd Mercher 8/7/2020

Bore Da! Dydd Mawrth 7/7/20

Bore Da! Dydd Llun 6/7/20

Dydd Gwener 3/07/2020

Dydd Iau 2/7/2020

Bore da! Dydd Mercher 1/7/20

Dydd Llun 29.06.2020

Dydd Gwener Hapus! 26/6/2020

Bore da! Dydd Iau Mehefin 25ain. Thursday June 25th.

Bore da! Dydd Mercher, Mehefin 24ain / Wednesday June 24th

Dydd Mawrth 23/6/20

Dydd Llun 22/6/2020

Dydd Gwener 19/6/20

Dydd Iau/Thursdau 18/6/20

Dydd Mawrth 16/6/2020

Dydd Llun 15/6/20

Still image for this video
Bore Da Blwyddyn 3!

Dydd Llun 15/6/20

Dydd Llun 8/6/2020

Still image for this video
Bore da blwyddyn 3!!

Y Carnifal!

Rio Carnival 2019 - Rio de Janeiro, Brazil

Rio Carnival 2019 Rio de Janeiro, Brazil

Olá! Dyma gopi y 'Pick a Mix' am yr wythnos hon. Rydyn ni'n gyffrous i weld eich dewisiadau. Does dim angen gwneud pob un. Joiwch y gweithgareddau creadigol! Divirta-seno carnaval!
Olá! Here's a copy of the 'Pick and Mix' for this week's activities. There's plenty of choice but you don't have to complete them all. We look forward to seeing what you choose. Enjoy the themed activities and have fun being creative! Divirta-se no carnaval!
 

18/05/2020 - 22/05/2020

Dydd Gwener Mai 14eg/May 14th

Dydd Iau 13/5/2020

Neges y Dydd

11/05/2020

Dydd Iau 7/5/2020

6.05.2020

Dydd Mawrth 5/5/2020

Bore da! Dydd Llun y 4ydd o Fai

Dydd Gwener 1/5/2020

30/4/20

Dydd Mawrth, 28ain o Ebrill

27/4/20

Dyma wybodaeth i ddechrau'r Eifftiaid. Here is a link to start the The Egyptians.

 

https://www.natgeokids.com/uk/discover/history/egypt/ten-facts-about-ancient-egypt/

24/4/20

23/4/2020

22/4/20

Syniadau arall am Ddiwrnod y Ddaear. Other ideas for Earth Day.

Neges y Dydd - Dydd Mawrth 21/4/20

Dydd Llun Ebrill 20 fed   Monday April 20th

Helo bawb!

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r Pasg a'r tywydd bendigedig! 

Mae trefn y dydd ychydig bach yn wahanol o hyn ymlaen. Fe fyddwn ni’n gosod 3 tasg y dydd i chi-rhywbeth bach Iaith a Mathemateg yn y bore a thasg bach thema/ymarferol i’r prynhawn. Llawer o bethau diddorol a hwylus i ddysgu am y tymor yma! Ein thema yw Ar Frig y Don a byddwn yn dysgu am Yr Eifftiaid, llyfr Roald Dahl Nab Wrc (Esio Trot), anifeiliaid di-ri fel trychfilod, creaduriaid y mor a'u cynefinoedd, Ymarfer Corff gyda Miss Sullivan a nifer o bethau hyfryd eraill! Dilynwch y cyfarwyddiadau ac edrychwch i weld lle mae’r tasgiau- ar Seesaw neu Gwgl Dosbarth. Fe fyddwn ni hefyd yn gosod ‘lincs’ i wefannau diddorol i hwyluso’r gweithgareddau ichi yn ystod yr wythnosau. Felly edrychwch amdanyn nhw hefyd.

 Dyma’r 3 gweithgaredd ar gyfer heddiw. Joiwch! Rydyn ni gyd yn edrych ymlaen at weld eich gwaith bendigedig!  smiley

 

Hello everyone! We hope you had a great Easter break and enjoyed all the sunshine!

The order of the day has changed from the ‘Pick and Mix’ grid. We heard that you’d prefer a little more structure and so there will be a small Language and Mathematics task every morning and a Science or topic activity in the afternoon. There’s lots of interesting and fun things to learn about this term-Our theme is On the Crest of a Wave, and we will be learning about The Egyptians, enjoying Roald Dahl’s book Esio Trot in Welsh (Nab Wrc), learning all about animals and their habitats-sea creatures as well as garden insects; enjoying P.E. with Miss Sullivan and lots of other fun things! Follow the instructions and look to see where you will find the task on Seesaw or Google Classroom. *Remember if you’re using a tablet to access Google Classroom, you’ll need to download the appropriate apps-Google Docs etc. We will also put links to interesting websites to help you with your learning. Look out for those too!   

Here are today’s 3 activities. Enjoy! We are looking forward to seeing your great work! smiley

Oddi wrth

Staff Blwyddyn 3

enlightenedTasg 1:- Cymraeg/WELSH- Nab Wrc! Gan Roald Dahl (Esio Trot yn Gymraeg). (gweithgaredd / activity on Seesaw)

Gwrandewch ar dudalennau 3-9 o’r llyfr Nab Wrc trwy glicio ar y linc. 

Ewch ati wedyn i ddisgrifio pa fath o berson ydy Mr Hoppy. Sawl ansoddair ydych chi’n gallu meddwl am?

Listen to pages 3-9 of ‘Nab Wrc’ by clicking on the link (in Seesaw). What adjectives can you think of to describe Mr Hoppy and his character?

 

enlightenedTasg 2:- Mathemateg (gweithgaredd /activity on Seesaw)

Enwi siapiau 3D yn Gymraeg. (taflen ar Seesaw) 3D Shapes in Welsh (example and sheet on Seesaw)

Ydych chi'n cofio enwau'r siapiau 3D yn Gymraeg? Can you name the 3D shapes in Welsh ? Defnyddiwch y siart siapiau 3D (ar Seesaw) ac adolygwch(revise)  enwau'r siapiau 3D Cymraeg. Yna chwiliwch am y siapiau 3D  o gwmpas y ty, a llenwch y siart.

 Revise the 3D shapes. Look for the shapes in your home and fill the chart.

Her/ Challenge: Beth am ddysgu priodweddau siapiau 3D?Learn the properties of the 3D shapes

 

enlightenedTasg 3:- Gwyddoniaeth (gweithgaredd / activity on Seesaw)

Didoli pethau byw ac anfyw/sorting living and Nonliving things

Gwyliwch y fideo yn esbonio ystyr ‘SASMYRT’ trwy glicio ar y linc. Yna, cwblhewch y gweithgaredd gan ddidoli’r lluniau i’r categori cywir - pethau byw neu pethau anfyw. Bydd y fideo yn helpu chi i ddidoli’r lluniau. Cofiwch i recordio eich hunain yn esbonio eich rhesymau am bob llun. 

Watch the video by clicking on the linc. It explains the 7 life processes and will help you sort living things from nonliving things. Then, complete the sorting activity. Don’t forget to record yourself explaining your choices and reasons.

Helo blant!                                                                                                                 Dydd Gwener y 3ydd o Ebrill 
Gobeithio mae pawb yn iach ac yn hapus. Mae Miss Thomas a Miss O'Malley wedi casglu llawer o syniadau lyfli i chi wneud dros y Pasg. Ewch i dudalen 'Dysgu yn yr Awyr Agored' i weld y tasgiau.

Fe fydd Pick a Mix newydd ar ol y Pasg. Diolch i chi am eich syniadau hefyd!

 

Tasgiau heddiw:- Mae Miss Sullivan wedi bod yn brysur iawn yn gwneud fideos i chi! Mae fideo cwis Mathemateg i chi ymuno mewn gyda, fideo cadw'n heini a fideo addurn Pasg! Os ewch chi i dudalen Neges y Dydd/Blwyddyn 3 ar ein safle we, byddwch chi'n gweld y linc i bob un fideo. Joiwch bawb!

 

Hello! 
We hope everyone is healthy and happy! Miss Thomas and Miss O'Malley have prepared lots of fun activities for you to try over the Easter break. They look great! Go to their page 'Outdoor Learning' in the class pages area of the website.

We're busy preparing a new Pick and Mix grid for you to start after Easter. Thank you for your ideas! Keep them coming!

Miss Sullivan has been busy recording videos for you too. There is a maths quiz to join in with, a keep fit video and an Easter craft video too! Enjoy!

Pasg Hapus/ Happy Easter!

Cyflwyniad ar gyfer cwis Mathemateg

Cwis Mathemateg Adio - Chili 1

Cwis Mathemateg Adio - Chili 2

Cwis Mathemateg Adio - Chili 3

Sesiwn Addysg Gorfforol gyda Miss Sullivan

Celf - Gwehyddu addurn pasg

Dydd Iau, Ebrill 2ail/Thursday, April 2nd

 

Helo eto ffrindiau smiley

Gobeithio fydd heddiw yn ddiwrnod braf arall. Mae'n hyfryd cael mynd i'r ardd neu am dro yn ddiogel pan mae'r haul yn gwenu. Os oes cyfle gennych chi heddiw, ewch allan i wrando ar y synnau rydych chi'n gallu clywed o'ch cwmpas tra bod y byd wedi arafu. Defnyddiwch y 'Scavenger Hunt' isod i chwilio am wahanol bethau yn yr awyr agored. Mae templed ar Seesaw hefyd, felly cofiwch i bostio beth rydych chi'n darganfod. 

 

Draw ar Seesaw mae 4 gweithgaredd newydd wedi gosod heddiw. Cer i edrych yn eich gweithgareddau ar Seesaw i weld beth sydd yna i chi. 

 

Cofiwch bod llawer o weithgareddau wedi'i gosod ar:

enlightenedSeesaw

enlightenedGoogle Classrooms

enlightenedFlipgrid

 

Ffansio ymarfer eich sgiliau mathemateg trwy chwarae gemau? Mae QR codes i chi sganio isod sy'n mynd a chi at gemau hwyl a chyffrous. Beth am bostio fideo neu nodyn ar Seesaw yn esbonio pa gemau rydych chi wedi chwarae? Pa un oedd eich hoff gêm? 

 

Rydyn ni'n dwlu gweld eich gwaith, felly plis postiwch rhywbetth i ni heddiw smiley

 

Cadwch yn saff, byddwch yn dda a mwynhewch eich diwrnod!

 

Staff Blwyddyn 3 laugh

 

Hello again friends smiley

Hopefully today will be another sunny day. Isn't it lovely to be in the garden or gor for a walk safely when the sun is shining? If you get a chance today, go outside to listen to the sounds that surround you as the world slows down. Use the Scavenger Hunt below to look for different things in nature. There's a template over on Seesaw that you can fill in and post there so that we can see what you discover. 

 

Also on Seesaw today are 4 new activities. Head over to see what tasks are there for you. 

 

Remember that there are lots of activities set for you on: 

enlightenedSeesaw

enlightenedGoogle Classrooms

enlightenedFlipgrid

 

Fancy practising your maths skills today? There are QR codes below for you to scan that take you to fun games. Why don't you post a video or write a note on Seesaw to let us know which ones you tried? Which game was your favourite? 

 

We really do love to see the wonderful work that you are doing, so please post something for us today laugh

 

Keep safe, be good and enjoy your day!

 

Year 3 staff laugh

 

 

Dydd Mercher,  Ebrill 1af 2020

Bore da blant !

Mae mis Ebrill wedi cyrraedd! Am fis Mawrth rhyfedd ! Rydyn ni'n gobeithio bydd yr haul yn dal i wenu yn ystod mis Ebrill i chi gael mynd i'r ardd i chwarae neu i gadw'n heini!

Mae neges y dydd heddiw yn son am gadw'n heini. Rwy'n siwr eich bod chi gyd yn dilyn Joe Wicks  bob bore. Rydw i, Mrs Powell , wrth fy modd yn cadw'n heini hefyd. Rydw i wrth fy modd yn loncian. Felly rydw i eisiau rhannu fy fideo gyda chi, fideo ohona'i yn cadw'n heini. Mwynhewch y fideo - na nid Joe Wicks ond Mrs Powell y tro hwn !!! blush

Ewch i Seesaw i weld y fideo.

Beth  am ichi fynd i'r ardd / neu rywle saff, i wneud cylched (circuit) bach syml, saff fel cylched Mrs Powell. 

Beth am her efallai? Amserwch eich hun ac yna beth am geisio curo'ch sgor y tro nesaf?

Cofiwch, os ydych yn cdw'n heini, eich bod yn ymestyn eich corff i ddechrau, ac yn ymlacio ar ol gorffen yr ymarfer. 

Rhannwch eich fideos ohonoch chi yn cadw'n heini, neu'n gwneud  cylched Mrs Powell, gyda ni ar Seesaw hefyd.

Mwynhewch heddiw a chadwch yn saff!

 

-enlightened Rydyn ni'n mwynhau gweld eich gwaith a'ch gwynebau! Daliwch ati! smiley

-enlightened Cofiwch os nad ydych wedi llwyddo i wneud gweithgaredd, mae digon o amser dros y Pasg

- enlightenedBydd gweithgareddau Pick and Mix newydd gyda ni ar ol gwyliau'r  Pasg ichi.

enlightenedOes syniadau gennych chi am weithgaredd newydd ar y Pick and Mix newydd? Efallai eich bod chi eisiau gweld gweithgaredd wahanol ar y grid? 

enlightenedRhowch wybod ini am eich syniadau ac fe driwn ni ein gorau glas i roi eich syniadau ar y Pick and Mix newydd... ebostiwch, neu rhowch neges ini ar Seesaw.

                                                        -----------------------------------------------

Good Morning!

April has arrived ! What a strange March! We hope the sun will continue to shine during April for you to have fresh air or to keep fit in the garden.

The message today is about keeping fit. I'm sure you have been following Joe Wicks and his exercises every morning. I, Mrs Powell, enjoy keeping fit, by going for a jog.

So today I want to share my video message with you today, a video of myself keeping fit. No it's not Joe Wicks it's Mrs Powell!!!

Go to Seesaw to view my keep fit video. Enjoy the video!!!

What about trying the circuit activity in the garden, or somewhere safe, if you can.

Can you set a challenge and time yourself? Can you beat your time next time?

If you do any exercise, remember to warm up with stretches and cool down.

Share your keep fit circuits videos with us on Seesaw.

Enjoy and keep safe!

 

enlightenedWe enjoy seeing your work and videos. Keep at it!

enlightenedIf you haven't already posted an activity, there is still plenty of time!

enlightenedWe will have a new Pick and Mix grid for you after the Easter holidays.

enlightenedIf you have any new ideas or suggestions for  different activities please let us know and we will try our best to include them on our new Pick and Mix grid. Let us know via email or Seesaw.

 

Enjoy today and keep safe!

Hwyl am y tro!

Mwynhewch yr her cadw'n heini heddiw!

Cofiwch i gadw'n saff.

 

Staff Blwyddyn 3

Dydd Mawrth, 31ain o Fawrth/Tuesday, 31st of March

 

Helo blwyddyn 3!

Sut ydych chi i gyd? Gobeithio eich bod chi'n cadw'n brysur a diogel yn y ty. Diolch i bawb sydd wedi danfon gwaith atom ni'n barod-rydyn ni athrawon wrth ein boddau yn edrych ar eich gwaith, clywed eich lleisiau a gwylio eich fideos o adref. Cadwch ati!

 

Mae hi'n deimlad rhyfedd iawn peidio gweld eich wynebau a chlywed eich lleisiau pob bore, felly beth am i ni gyd postio fideo o'n huniain yn 'Dangos a Dweud'? Rydw i, Mrs Collins, wedi postio fy fideo i ar Flipgrid. Rydw i wedi ychwanegu linc o dan. Cliciwch ar y linc a logiwch mewn gyda'ch ebost ysgol. Postiwch eich fideo chi ar y Flipgrid hefyd. Tybed beth byddech chi'n dangos i ni? Eich hoff ddiddordeb? Rhywbeth rydych chi wedi creu yn y ty? Efallai eich bod chi wedi bod yn coginio ac eisiau siarad am y bwyd? Edrychwn ymlaen at wylio eich fideos.

 

Cofiwch i:

enlightenedDdarllen pob dydd yn y ty

enlightenedEdrych ar Seesaw am dasgau newydd

enlightenedPostio unrhyw gwaith rydych chi wedi gwneud ar Seesaw

enlightenedEdrychwch ar Google Classrooms am fwy o dasgau

enlightenedMwynhewch eich amser gyda'ch teulu 

 

Hello year 3!

How are you all? We hope that your all keeping busy and safe at home. Thank you to everyone who has sent us work so far - we teachers are really enjoying looking at your work, hearing your voices and watching videos of yourselves from home. Keep them coming!

 

It's a really strange feeling to not see your faces or hear your voices every morning, so why don't we all post a 'Show and Tell' video of ourselves like we used to do every Monday morning? I, Mrs Collins, have already posted my video on Flipgrid. Go and check it out using the link below where you'll find the activity. You'll need your school email to login. Post your video straight to Flipgrid too. I wonder what you'll show us? A hobby of yours? Something you've created whilst being at home? Maybe you've been cooking and would like to share a recipe with us? We look forward to watching!

 

Remember to:

enlightenedRead every day

enlightenedLook on Seesaw for new tasks

enlightenedPost any other work you've done on Seesaw

enlightenedLook at Google Classrooms regularly for new tasks

enlightenedEnjoy your time at home with family

 

Mwynhewch recordio eich fideos!

 

Hwyl am y tro,

Athrawon Blwyddyn 3 smiley

 

30/3/20

Helo bawb! 

Dyma un o'ch hoff storiau 'The Day the Crayons Quit' i chi gan Drew Daywalt ac Oliver Jeffers. 

Pa liw creon bysech chi'n dewis fod? Pa deimladau byse gennych chi? Tynnwch lun creon newydd i'r bocs. Beth sydd yn arbennig amdanoch chi?

Ychwanegwch ychydig o stori, ysgrifennwch lythyr neu rhowch swigen siarad r y llun hefyd yn rhannu eich teimladau fel un o creonau Duncan. 

Hi everyone! 

Here's one of your favourite stories, 'The Day the Crayons Quit' by Drew Daywalt and Oliver Jeffers.

What colour crayon would you be? How would you feel if you were a crayon in Duncan's crayon box? Draw a picture of this new crayon. Write a little description, add a speech bubble or write a little story to go with it. Maybe you'd like to write your own letter to Duncan!

*In English or Welsh*

We look forward to seeing your creations! Enjoy! Joiwch!

Stori Creonau

Diolch i Drew Daywalt ac Oliver Jeffers

Dydd Gwener 27/3/20

 

Helo blwyddyn 3! Mae hi'n ddydd Gwener! Diwedd ein hwythnos gyntaf heb fod gyda'n gilydd. Gobeithio bod pob un ohonoch yn iawn ac yn bod yn blant da i'ch rhieni. 

Diolch o galon am yr holl waith rydych chi wedi anfon i ni. Mae wir wedi bod yn hyfryd gweld eich fideos, lluniau a gwaith! Ardderchog! Os nad ydych wedi rhannu un rhywbeth eto, ewch ati heddiw! Mae ddigon o weithgareddau i chi gwblhau ar 'Seesaw' a Google classroom yn ogystal â'r grid Pick n Mix!

 

 

Today on Seesaw Mrs Debra Davies has read a poem about a giant! Go and listen and then complete today's challenge!

Write a menu for a giant! What tasty treats will you offer the giant? Maybe a dumper truck full of delicious donuts or a crane full of crunchy, crinkly crisps! Remember to include lots of amazing adjectives and alliteration! 

 

Use words from the list below to help you. 

We look forward to what you can come up with!

 

Have a fun Friday!

 

Hwyl fawr am y tro, 

Staff blwyddyn 3. 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Iau 26/3/20

 

Bore da ffrindiau! Gobeithio rydych chi gyd yn iawn! smiley

 

Diolch i bob un a wnaeth ddanfon gwaith atom ni ddoe- gwaith gwych! Rydym ni'n dwlu gweld beth rydych chi wedi bod yn gwneud. Gobeithio bydd mwy yn postio heddiw. 

 

Syniadau o weithgareddau i wneud heddiw!

  • Gwneud sesiwn ffitrwydd gyda Joe Wicks (Youtube). https://www.youtube.com/playlist?list=PLyCLoPd4VxBvQafyve889qVcPxYEjdSTl
  • Cyflawni tasgau o'r daflen 'Pic n Mix'
  • Maths- Gwaith pwyso. Her Seesaw!
  • Gwyddoniaeth- Golau/Cysgod. Beth am greu llun trwy ddefnyddio cysgodion? Casglwch deganau/anifeiliaid bach/gwrthrychau gwahanol, a'i osod yn yr haul fel bod modd creu cysgodion. Yna ewch o gwmpas y cysgod gyda phensil. Efallai gallwch greu cysgod o'ch corff ar y llawr gyda sialc hefyd! 


    Cofiwch i ddanfon unrhyw waith/ lluniau/ fideos i ni drwy Seesaw.

Hwyl am y tro, athrawon blwyddyn 3. smileysmileysmileysmiley

 

Dydd Mercher 25/3/20

 

Prynhawn da i chi gyd! Gobeithio bod pawb yn iawn! 

 

Neges gyflym i atgoffa chi i edrych ar y grid Pick n Mix i ddewis pa weithgareddau hoffech chi wneud. Dewiswch un pob yn ail ddiwrnod efallai? Bydd ambell weithgaredd yn cymryd mwy o amser nag eraill. 

Syniad da yw ddechrau eich diwrnod gyda Joe Wicks ar youtube a chadw'n heini am 9:00 y bore! Mae rhai yn gwneud hyn yn barod... gan gynnwys fi (Mrs Debra Davies)

Rydym yn gweld eisiau chi ac mi fydd hi'n hyfryd i weld lluniau/fideos ohonoch chi ar Seesaw yn gwneud eich gweithgareddau. Gobeithio eich bod yn mwynhau y storiau gan yr athrawon ar Seesaw, beth am i chi ddarllen stori ac anfon i ni?

 

Cymerwch ofal ffrindiau, hwyl fawr am y tro.

Staff blwyddyn 3. 

Dydd Mawrth 24/3/20

 

Helo Blant!

 

Sut ydych chi heddiw?

Rydyn ni'n gobeithio eich bod yn gwenu fel yr haul heddiw!

 

Byddwn ni'n rhoi neges ddyddiol ichi ar Seesaw neu Google Classroom.

 

Heddiw rydw i , Mrs Powell, wedi rhoi fideo ohona'i yn darllen stori ichi ar Seesaw.

Gobeithio y byddwch chi yn mwynhau ! Fe wnes i fwynhau darllen y stori 'Aeth mamgu i'r farchnad'.

Ydych chi wedi mwynhau'r stori heddiw?

Gadewch neges i ni yn ymateb i'r stori.

 

Bydd fideo arall yfory i chi. Tybed pwy fydd yn y fideo ichi yfory?

 

Cofiwch i ymateb hefyd. Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn negeseuon.

 

Cofiwch i ddilyn y rheolau newydd sut i gadw'n saff- a chadwch 2-3 metr i ffwrdd a golchwch eich dwylo.

 

  Hwyl fawr

 

Staff Blwyddyn 3

 

Dydd Llun 23/3/20

 

Bore Da!

Sut ydych chi gyd? Rydyn  ni'n gobeithio eich bod yn iawn heddiw ac yn cadw'n saff ac yn iach.

Cofiwch y rheolau i gadw 2-3 metr i ffwrdd o rywun a golchwch eich dwylo!

Mae'r haul yn gwenu 'n braf heddiw a rydyn ni'n gobeithio eich bod yn gwenu hefyd! Os ydyw'n saff ichi ei wneud ac os y medrwch chi,  beth am eistedd yn yr ardd i ddarllen stori ac i gael awyr iach?  Beth am chwarae pel yn yr ardd hefyd, os yw'n saff ? Cofiwch i recordio y gweithgareddau hyn ar Seesaw.

Cofiwch hefyd bod Seesaw ar gael a hoffwn ni eich  gweld chi yn gwneud gweithgareddau  ar Seesaw!

Cofiwch hefyd am y gweithgareddau Pick and Mix ar ein gwefan a Google Classroom.

Mwynhewch a chadwch yn saff! 

 

Staff Blwyddyn 3 

Newyddion y Dydd!

Helo!

Os ydych chi'n gweithio o adref, cliciwch ar y botwm isod- 'Gweithio o adref'. 

If you are learning from home, click on the icon below that says 'Gweithio o adref/Working from home'

 

17/3/20

*Mi fydd gweithgareddau yn cael eu adio yn ddyddiol ar Google Drive a Seesaw. Rydyn ni'n gweithio'n galed arnyn nhw i chi. 

Activities will be added every day this week on Google Drive and Seesaw. We are like busy bees making them for you 

Miss Davies, Mrs Collins, Mrs Powell a Mrs Davies smiley

Top