Menu
School Logo
Language
Search

Gwobrwyo a Disgyblaeth/ Rewards and Discipline

Sut mae disgyblion yn Ysgol Santes Tudful yn gwybod sut i ymddwyn? 

Mae'r holl ddisgyblion yn ymwybodol o 'Ffordd Santes Tudful - cod ymddygiad clir sy'n gosod disgwyliadau ymddygiad ar gyfer pob plentyn. Mae ein disgyblion yn deall eu bod yn gyfrifol am eu hymddygiad a sut i ymddwyn yn barchus yn ffordd Santes Tudful. Mae plant yn deall sut mae peidio ag ymddwyn yn barchus yn effeithio ar deimladau pobl eraill ac yn mynd yn groes i ethos yr ysgol. 

 

Beth mae 'Normau Santes Tudful' yn ei olygu? 

Normau Santes Tudful yw'r rheolau dyddiol y mae'n rhaid eu dilyn. 

 

Beth fydd yn digwydd os na fydd fy mhlentyn yn dilyn Ffordd Santes Tudful?  

Wrth ymateb i ymddygiad annerbyniol nad yw'n dilyn 'Ffordd Santes Tudful', mae'r holl staff yn ymateb gyda'r 5 Cam Ddisgyblaeth y ‘Gadwyn Disgyblaeth’.

 

1.Rhybudd am ymddygiad annerbyniol.

2.Rhybudd penodol - ail rybudd ar ffurf sgwrs.

3.Cosb gan aelod o staff a chofnod o'r ymddygiad ar Class Charts.

4.Cosb gan Bennaeth Ysgol neu Bennaeth Adran ynghyd â chofnod ar Class Charts. 

5.Galwad ffôn adref i rieni neu warcheidwaid. 

 

Pwy fydd yn defnyddio Class Charts?

Bydd blynyddoedd 3-6 yn defnyddio Class Charts. Bydd y Cyfnod Sylfaen hefyd yn dilyn Ffordd Santes Tudful ac yn defnyddio'r Gadwyn Disgyblaeth ond ni fydd staff yn recordio pwyntiau iddyn nhw ar Class Charts. Mae Ysgol Rhydywaun hefyd yn defnyddio Class Charts felly byddwch chi'n gyfarwydd iawn â'r system cyn iddyn nhw fynd i Flwyddyn 7. * Bydd eich plentyn wedi cael dalen o bapur gyda manylion yn dweud wrthych sut i gael mynediad at broffil eich plentyn ar-lein. Fe welwch hysbysiadau ar ôl mewngofnodi.

 

Beth yw Class Charts?

Mae Class Charts yn blatfform digidol sy'n galluogi staff i gofnodi a gwobrwyo cyflawniadau ac ymddygiadau da fel bod yn barchus, ceisio eu gorau, siarad Cymraeg a thrin eraill â charedigrwydd. 

Mae Class Charts hefyd yn lle i nodi ymddygiadau sydd ddim yn cyd-fynd â 'Ffordd Santes Tudful'. Trwy blatfform ar-lein, hysbysir rhieni o ymddygiadau cadarnhaol a negyddol eu plentyn. Nodir gwobr fel pwynt gwyrdd ar eu proffil a chofnodir ymddygiadau negyddol mewn coch. Mae pob plentyn yn cychwyn wythnos ysgol newydd gyda llechen lân ond cedwir cofnod hanesyddol o'r holl ymddygiadau. 

 

Pam defnyddio Class Charts?

Mae Class Charts yn ffordd wych i rieni gael mewnwelediad o sut mae'ch plentyn yn ymddwyn a sut mae'ch plentyn yn gweithio yn yr ysgol. Mae'r platfform hefyd yn ffordd wych i athrawon gadw mewn cysylltiad gyda bywyd ysgol eu plant. Ar ôl ein treial cychwynnol, byddwn yn defnyddio Class Charts i rannu negeseuon a llythyrau. 

 

Gwobrwyo

Yn ogystal â chanmoliaeth lafar plentyn, defnyddir Class Charts fel system wobrwyo. Mae'r system yn golygu eich bod chi fel rhieni yn cael gwybod am unrhyw lwyddiant ac yn gallu dathlu hyn gartref. 

Mae yna hefyd systemau eraill o wobrwyo a dathlu yn yr ysgol sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth ac fel ysgol gyfan e.e. tystysgrifau, tocynnau clod a phwyntiau llys.


 

 

 

How do pupils at Ysgol Santes Tudful know how to behave? 

All pupils and parents are aware of 'Ffordd Santes Tudful’ - a clear code that sets behavioral expectations for every child. The code consists of expected norms and a set of expected behaviours.

Our pupils understand that they are responsible for their behavior and know how to behave respectfully in the Santes Tudful way. The importance of this is discussed and how not behaving respectfully affects the feelings of others and goes against the ethos of the school. 

 

What does 'Santes Tudful Norms’ mean? 

Santes Tudful’s norms are the daily rules and expectations that need to be followed. 

 

What happens if my child doesn't follow Ysgol Santes Tudful’s Way?  

When responding to behavior that does not follow Santes Tudful’s way, all staff respond with the 5 Disciplinary Steps. 

 

  1. Caution for unwanted behaviour.
  2. Specific talk- second warning in the form of a conversation.
  3. Punishment by a member of staff and a record of the conduct on Class Charts.
  4. Head of School / Head of Department- Punishment by Head of school with entry going on Class Charts. 
  5. Call home for parents or guardians. 

 

What is Class Charts?

Class Charts is a digital platform that enables staff to record and reward achievements. Class Charts is also a place to identify behaviors that do not conform to Santes Tudful's expectations. Through an online platform parents are informed of their child's positive and negative behaviours and can also receive news and messages from teachers and the school. 

 

Reward

In addition to verbal praise, Class Charts is used to reward a child. The system means that you as parents are informed of any successes and can also celebrate these at home. 

There are also other reward systems within the school. These take place both within the classroom and as a whole school e.g. Certificates, reward tokens and house points.

 

 

Top