Menu
School Logo
Language
Search

Swyddog Cyswllt Teulu/ Family Liaison Officer

Fy enw i yw Mrs Cater a fi yw Swyddog Cyswllt Teulu ar gyfer Ysgol Santes Tudful. 

Fy rôl i yw darparu cefnogaeth fugeiliol i rieni / gofalwyr; help gydag unrhyw faterion a allai fod gennych mewn perthynas â chefnogi eich plant, gartref ac yn yr ysgol. Rwy'n gweithio i annog cyfranogiad rhieni yn yr ysgol, cyfeirio at asiantaethau (lle bo hynny'n briodol) a chefnogi plant yn yr ysgol.

Os oes gennych bryder personol neu fater yn ymwneud ag ysgol, yna rwyf yma i gynnig cefnogaeth. Mae gen i fynediad at nifer o asiantaethau a allai ddarparu cymorth i chi a'ch teulu.

Unrhyw ymholiad, mawr neu fach, rydw i yma i helpu.

Rwy'n cysylltu â holl staff yr ysgol lle bo angen, bob amser er budd gorau'r plant a'u teuluoedd. Rwy’n gweithio’n ddiduedd ac yn gyfrinachol mewn modd anfeirniadol, gan ddarparu dealltwriaeth a ‘chlust wrando’ os bydd angen cyngor neu gefnogaeth arnoch chi.

 

Presenoldeb

Rydyn ni eisiau'ch plentyn yn yr ysgol, ar amser bob dydd!

Os yw'ch plentyn yn sâl ac yn methu â mynychu mae'n rhaid i chi ffonio'r ysgol i roi gwybod am hyd yr absenoldeb. Os oes apwyntiad meddygol hoffem gael tystiolaeth o hyn, llythyr neu gerdyn apwyntiad.

Rydym yn annog yn gryf i beidio â mynd â'ch plant ar wyliau yn ystod y tymor. Os ydych chi'n bwriadu mynd â'ch plant ar wyliau yn ystod y tymor, rhaid i chi anfon e-bost gyda'r ffurlen 'Caniatad am Wyliau' (ar y dudalen 'Ffurflenni Allweddol') wedi ei atodi at yr ysgol i roi gwybod i ni pryd na fydd eich plentyn yn yr ysgol.

Bydd diffyg presenoldeb yn cael ei herio!

Rydyn ni eisiau'r gorau i'ch plentyn, ac i fedru gwneud hynny mae angen eu gweld yn yr ysgol bob dydd.

 

Manylion cysylltu:-

E-bost- office@santestudful.merthyr.sch.uk

Ffon:- 01685 351815

 

 

My name is Mrs Cater and I am the Family Liaison Officer for Ysgol Santes Tudful.

 

My role is to provide pastoral support for parents / carers and help with any issues you may have in relation to supporting your children, at home and at school. I work to encourage parental involvement in school, signpost to agencies (where appropriate) and supporting children in school.

If you have a personal concern or a school issue, then I am here to offer support. I have access to a number of agencies that could provide support to you and your family.

Any inquiry, big or small, I'm here to help.

I liaise with all school staff where necessary, always in the best interests of the children and their families. I work impartially and confidentially in a non-judgmental way, providing understanding and a 'listening ear' if you need advice or support.

 

Attendance

We want your child in school, on time every single day!

If your child is ill and cannot attend you must ring the school to let us know how long they will be away. If there is a medical appointment we would like evidence of this, a letter or an appointment card.

We strongly discourage taking your children on holiday in term time. However, if you intend to take your children on holiday during term time, you must email the school with a completed holiday request form to let us know when your child will not be in school. You can find this form on the 'Important Forms' Page. 

Non Attendance will be challenged!

We want the best for your child, and to us that means seeing them in school everyday.

 

Contact:-

E-mail:-   office@santestudful.merthyr.sch.uk

Phone:- 01685 351815

 

Top