Menu
School Logo
Language
Search

Iechyd, Lles ac Addysg Gorfforol/Health, Wellbeing and Physical Education

Mae gan yr ysgol hanes hir o lwyddiant yn y maes yma ac rydym yn ymfalchïo yn yr holl weithgareddau a gynigir i bob plentyn. Rydym yn ceisio gwella hunan hyder, ymwybyddiaeth a phwysigrwydd iechyd a rheolaeth corff pob plentyn drwy weithgareddau unigol a grŵp. Darparwn wersi sy’n gwella gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a gallu mewn gymnasteg, gemau, athletau, dawns, nofio a gweithgareddau antur a gweithgareddau awyr agored.

 

Mae pob disgybl yn derbyn gwers addysg gorfforol yr wythnos. Mae cynnwys y rhain yn amrywio trwy gydol y flwyddyn er mwyn datblygu trawstoriad o sgiliau ac i ddarparu profiadau amrywiol. Yn ogystal â gwersi chwaraeon penodol mae agweddau iechyd a lles yn treiddio gwersi trawsgwricwlaidd y disgyblion. 

Mae’r meddylfryd canlynol yn sail i bob gwers. 


 

  • Mae datblygu iechyd a lles corfforol yn fanteisiol gydol ein hoes.
  • Mae sut yr ydym yn prosesu ac yn ymateb i’n profiadau yn cael effaith ar ein hiechyd meddyliol a’n lles emosiynol.
  • Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau pobl eraill.
  • Mae sut yr ydym yn ymateb i wahanol ddylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles.
  • Mae cydberthnasau iach yn sylfaenol i’n hymdeimlad o berthyn a lles.


 

Manteisir ar gyfleoedd i blant gynrychioli’r ysgol yng nghystadlaethau chwaraeon yr Urdd megis nofio, pêl droed, rygbi, athletau a gymnasteg. Rydym hefyd yn mynychu diwrnodau chwaraeon yr Urdd. 

 

Nofio 

Mae Blwyddyn 3 a 5 yn derbyn pythefnos trylwyr o wersi o fewn y flwyddyn. Mae’r plant yn cael eu hasesu ar ddechrau’r pythefnos ac eto ar y diwedd i fesur cynnydd. Trwy gael cyfres o wersi dyddiol gan arbenigwyr, mae’r plant yn datblygu eu sgiliau yn gyflym, gyda rhai yn dechrau gydag ofn y dŵr ac yna’n gorffen yn mwynhau’r dŵr ac yn gallu nofio. Rhannir y gwersi fesul gallu a chynllunnir gwersi yn ôl gofynion y cynllun ‘Nofio Ysgol’ (School Swimming for Wales). Ar ddiwedd y cyfnod mae pob plentyn yn derbyn tystysgrif. 

 

Beicio

Am bythefnos yn nhymor yr haf mae Blwyddyn 6 yn cael gwersi beicio. Mae’r plant yn cael eu hasesu ac yna’n gweithio tuag at lefel 1 a 2. Cynhelir yr hyfforddiant gan o leiaf dau hyfforddwr yn unol â safonau cydnabyddedig hyfforddiant beicio. Mae Lefel 1 yn digwydd ar dir yr ysgol ac yn canolbwyntio ar sgiliau rheoli. Mae Lefel 2 yn digwydd ar y ffyrdd lleol. Y nod cyffredinol yw arfogi disgyblion â'r sgiliau i feicio yn fwy diogel. Mae'r cwrs hefyd yn codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'r ffyrdd.

 

Clybiau

Mae’r ysgol yn ffodus iawn i gael staff medrus sydd yn cynnal clybiau yn ystod eu hamser cinio ac ar ôl ysgol. Mae amrywiaeth o glybiau yn cael eu darparu ar gyfer ein disgyblion. Mae rhai clybiau/sesiynau ymarfer yn ddibynnol ar amser y flwyddyn a digwyddiadau arbennig. 

 

Milltir y Dydd

Yn ystod y diwrnod ysgol mae’r athrawon yn manteisio ar gyfleoedd o gael sesiynau bach byr o ymarfer y corff yn yr awyr agored. Mae’r plant yn cerdded neu’n loncian ar dir yr ysgol gyda’r bwriad o gyflawni milltir y diwrnod ac yna 5, 10 a 20 milltir dros y flwyddyn. 

 

Mabolgampau

Pob haf mae’r ddau gyfnod allweddol yn cymryd rhan ym Mabolgampau’r ysgol. Mae carwsél o weithgareddau hwylus yn cael eu darparu lle mae pob dosbarth yn cael y cyfle i gystadlu a chymryd rhan i ennill pwyntiau i’w llysoedd ysgol. 

 

Wythnos Iechyd Meddwl 

Gan ddilyn thema Wythnos Iechyd Meddwl Plant ‘Place2be’ mae’r ysgol yn cynnal wythnos o weithgareddau yn ffocysu ar Iechyd Meddyliol Plant. Mae gwersi lles yn digwydd o hyd yn yr ysgol ond mae iechyd meddwl plant yn derbyn ffocws trylwyr yn ystod yr wythnos hon. Mae’r ysgol gyfan yn gyd gynllunio tasgau pwrpasol i bob blwyddyn fel bod trawstoriad addas o weithgareddau. Mae ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn holl bwysig ac yn sicrhau mae’r plant yn deall yr holl ffactorau sydd yn gallu effeithio iechyd meddwl person o bryd i’w gilydd. Y gobaith yw bydd y plant a chasgliad o strategaethau i helpu nhw i ddelio gyda herio personol. 

 

Wythnos Wrth Fwlio

Cynhelir wythnos pob blwyddyn lle mae’r ysgol gyfan yn trafod materion yn ymwneud a bwlio ac yn cwblhau gweithgareddau. Trwy gydol y flwyddyn rydym yn hyrwyddo'r neges gwrth-fwlio trwy amser cylch a'n cwricwlwm iechyd a lles. Fel ysgol rydym yn teimlo bod yr wythnos gwrth-fwlio yn gyfle i gyd weithio fel ysgol gyfan tuag at yr un neges ac yna’n rhannu'r neges hon â'r gymuned ehangach. Rydym yn gweithio ar bob math o dopig yn gysylltiedig â gwrth-fwlio, er enghraifft, hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, trafod beth ydy bwlio ar-lein a sut i ddelio gyda hi, ymarfer sgiliau cymdeithasol a hawliau plant.

 

Wythnos Diogelwch y We 

Manteisir ar bob cyfle i addysgu’r plant sut i fod yn ddiogel wrth ddefnyddio’r we a thechnoleg ddigidol. Mae uned o fewn ein cynllun ysgol sydd yn canolbwyntio’n fawr ar lythrennedd digidol a sut i fod yn ddinesydd digidol cyfrifol. Mae ein gweithgareddau yn seiliedig ar beth i ymddiried ynddo ar-lein, beth i wneud os ydy rhywbeth yn ymddangos yn anghywir a sut mae cefnogi’r plant i gwestiynu, herio a newid y byd ar-lein. 

 

Meddylfryd Twf 

Meddylfryd twf yw'r gred bod deallusrwydd yn gwella trwy astudio ac ymarfer. Mae pobl sy’n credu bod yr ymennydd yn gallu tyfu, yn gwneud yn well yn yr ysgol gan eu bod nhw’n canolbwyntio ar wella. Maent yn gweld ymdrech fel ffordd i wella eu galluoedd. Maen nhw’n gweld methu fel rhan naturiol o’r broses ddysgu. 

Rydym yn hyrwyddo egwyddorion ac arferion meddylfryd twf o fewn Ysgol Santes Tudful i ddatblygu’r disgyblion i fod yn uchelgeisiol, mentrus, hyderus, galluog a chreadigol. 

Yn fwy nag erioed mae gwytnwch, dyfalbarhad a hunanwerth yn hanfodol o bwysig.
 

Nyrs 

Mae’r nyrs gymunedol yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i addysgu negeseuon pwysig ynglŷn â materion iechyd perthnasol-germau, ysmysgu, bwyta’n iach, glendid personol ayb. 

 

Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol

Sicrhawyd bod nifer o’n staff wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (Positive Behaviour Support). Dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn ymdrin ag anawsterau dysgu ac ymddygiadau heriol. Y bwriad yw darparu cefnogaeth sydd wedi ei theilwra i’r unigolyn ac sydd yn seiliedig ar gynhwysiant, dewis, cyfranogiad a chyfle cyfartal. 

 

ELSA

Mae ELSA yn sefyll am Emotional Literacy Support Assistant. Mae nifer o’n staff wedi derbyn hyfforddiant ELSA lle maen nhw wedi dysgu am sut i gynnig cymorth i helpu plant gyda’u sgiliau cymdeithasol, emosiynau, profedigaeth, tymer a hunan-barch. Mae’r staff hefyd yn derbyn sgiliau cwnsela ac yn dysgu sut i ddefnyddio straeon cymdeithasol a straeon therapiwtig i helpu dealltwriaeth y plant. Mae ELSA yn llwyddiannus iawn o fewn yr ysgol ac yna i helpu unrhyw blentyn sydd angen ychydig o gymorth yn eu bywydau. Nid ydym yn cychwyn sesiynau ELSA heb ganiatâd y rhieni. 

 

Arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn (PCP- Person Centred Practices)  

 

Mae’r ysgol yn ymarfer dulliau sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynnwys yr unigolyn. Mae gan bob un plentyn Proffil 1 Tudalen ac mae’r dysgwyr sydd ag anghenion addysgiadol ychwanegol yn rhan o ddatblygiad unrhyw gynllun addysg. 

Mae dulliau meddwl sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd drylwyr o sicrhau bod addysg yn diwallu anghenion pob plentyn neu berson ifanc, gan gydnabod bod gan bob un arddull unigryw o ddysgu, cyfathrebu, meithrin perthnasoedd a gwneud penderfyniadau.

 

Addysg Awyr Agored

Cynhelir diwrnodau o ddysgu yn yr awyr agored lle mae pob disgybl yn manteisio ar ddysgu o fewn amgylchfyd ysbrydoledig ein byd naturiol. Mae’r plant yn elwa o brofiadau anturus sydd yn eu helpu i ddarganfod, arbrofi a chysylltu gyda’r ardal leol tu fas pedair wal yr ystafell ddosbarth. Maent hefyd yn cael y cyfle i ddyfnhau dealltwriaeth o’u sgiliau ond o fewn cyd-destun a lleoliad gwahanol, e.e.. Gwaith mesur a rhifedd yn yr awyr agored.

 

The school has a long history of success in this area and we take pride in all the activities offered to each child. We seek to improve each child's self-confidence, awareness and importance of health and body control through individual and group activities. We provide lessons that enhance knowledge, skills, understanding and ability in gymnastics, games, athletics, dance, swimming and adventure and outdoor activities.

 

Every pupil receives a physical education lesson a week. The content of these varies throughout the year to develop a cross section of skills and to provide a variety of experiences. As well as sports specific lessons, health and wellbeing aspects are included in  cross-curricular lessons. 

The following thinking underpins every lesson. 


 

  • Developing physical health and well-being is beneficial throughout our lives.
  • How we process and respond to our experiences has an impact on our mental health and emotional well-being.
  • Our decisions affect the quality of our lives and those of others.
  • How we respond to different social influences shapes who we are and our health and well-being.
  • Healthy relationships are fundamental to our sense of belonging and well-being.

 

When possible, we provide opportunities for children to represent the school in Urdd sports competitions such as swimming, football, rugby, athletics and gymnastics. Children also attend various Urdd sports days throughout the year. 

 

Swimming 

Years 3 and 5 receive two weeks of lessons within the year. The children are assessed at the beginning of the fortnight and again at the end to measure progress. By having a series of daily lessons from experts, the children develop their skills quickly, with some starting with the fear of the water and then finishing enjoying the water and being able to swim. Lessons are organised according to ability and lessons are planned according to the requirements of the 'School Swimming for Wales' scheme. At the end of the period each child receives a certificate. 

 

Cycling

For two weeks during the summer term Year 6 has cycle lessons. The children are assessed and work towards levels 1 and 2. The training is conducted by at least two trainers in accordance with the recognized standards of cycle training. Level 1 takes place in the school grounds and focuses on management skills. Level 2 takes place on the local roads. The overall aim is to equip pupils with the skills to cycle more safely. The course also raises general road awareness.

 

Clubs

The school is very fortunate to have skilled staff who run clubs during their lunchtimes and after school. A variety of clubs are provided for our pupils. Some clubs / exercise sessions are dependent on time of year and special events. 


Mile a Day

During the school day teachers take advantage of opportunities for short outdoor exercise sessions. The children walk or jog in the school grounds with the intention of achieving one mile a day and then 5, 10 and 20 miles over the year. 

 

Sports Day

All summer both key stages are involved in school sports day. A carousel of fun activities is organised and all classes have the opportunity to compete and participate to earn points for their school houses. 

 

Mental Health Week 

Following the theme of 'Place2be' Child Mental Health Week the school holds a week of activities focusing on Child Mental Health. Well-being lessons are still taught in school but children's mental health is receiving a specific focus within this week. The whole school plans purposeful tasks for each year so that there is a suitable cross section of activities. A whole school approach to the mental health and well-being of children and young people is crucial and ensures that children understand all the factors that can affect a person's mental health from time to time. One aim is that the children will have a collection of strategies to help them deal with personal challenges. 

 

Anti-Bullying Week

A week is held each year where the whole school discusses bullying issues and completes activities. Throughout the year we promote the anti-bullying message through circle time and our health and wellbeing curriculum. As a school we feel that anti-bullying week is an opportunity to work together as a whole school towards the same message and then share this message with the wider community. We work on all sorts of topics related to anti-bullying, for example, promoting equality and diversity, discussing what bullying is online and how to deal with it, practicing social skills and children's rights.

 

Internet Safety Week 

Every opportunity is taken to teach the children how to be safe when using the internet and digital technology. There is a unit within our school plan that focuses heavily on digital literacy and how to be a responsible digital citizen. Our activities are based on what to trust online, what to do if something seems wrong and how to support the children in questioning, challenging and changing the online world. 

 

Growth Mindset 

A growth mindset is the belief that intelligence improves through study and practice. People who think the brain can grow, do better at school because they focus on getting better. They see effort as a way to improve their abilities. They see failure as a natural part of the learning process. 

We promote the principles and practices of growth mindset within our school to develop the pupils to be ambitious, enterprising, confident, able and creative. More than ever resilience, perseverance and self-worth are vitally important.

 

Nurse 

The community nurse visits the school regularly to teach important messages about relevant health issues - germs, smoking, healthy eating, personal hygiene etc. 

 

Positive Behavior Support

We have ensured that many of our staff have received Positive Behavior Support training. A person centered approach to dealing with learning difficulties and challenging behaviours. The intention is to provide tailored support to the individual based on inclusion, choice, participation and equality of opportunity. 

 

ELSA

ELSA stands for Emotional Literacy Support Assistant. Many of our staff have received ELSA training where they have learned how to offer support to help children with their social skills, emotions, bereavement, anger and self-esteem. Staff also gain some counseling skills and learn how to use social and therapeutic stories to aid children's understanding. ELSA is very successful within the school and then in helping any child who needs a little help in their lives. We do not start ELSA sessions without parental consent. 

 

Person Centered Practice (PCP- Person Centred Practices)  

The school practices person centered and person centered approaches. All children have a 1 Page Profile. Person-centered thinking is a rigorous way of ensuring that education meets the needs of each child or young person, recognizing that each has a unique style of learning, communication, relationship building and decision making.

 

Outdoor Education 

Outdoor learning days are provided, where all pupils benefit from learning within the inspiring environment of our natural world. The children have lots of fun with adventurous experiences that help them discover, experiment and connect with the outdoors. They also have the opportunity to deepen understanding of their classroom based skills but within a different context and setting, eg. Outdoor measurement and numeracy work.

 

Top