Menu
School Logo
Language
Search

Y Criw Cymraeg

Ennill y Wobr AUR!

Yn dilyn ein hymdrechion bendigedig ers ennill y wobr arian yn ôl yn 2020, gallwn o’r diwedd gyhoeddi ein llwyddiant gwych o ennill y wobr aur yn nhymor yr haf 2023.

 

Mae hyn yn dilyn holl waith caled ac ymroddiad ein Criw Cymraeg, disgyblion a staff ein hysgol.

 

Dyfarnwyd y gamp gan ein gwaith anhygoel yn y gymuned ehangach, yn enwedig ein cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi cyntaf a oedd wedi ei drefnu a’i berfformio gan ein Criw Cymraeg a disgyblion yr ysgol.

 

Gwahoddwyd ein rhieni/gwarcheidwaid i'r ysgol i ddysgu gyda'n disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein “Caffis Darllen” llwyddiannus.

 

Mae’r gwaith yn parhau gyda’n podlead dyddiol ar ein radio ysgol sydd i’w glywed ym mhob rhan o’r ysgol, gan gynnwys ar yr iard amser egwyl a chinio. Mae’r Criw hefyd yn cyfathrebu gyda theulu’r ysgol trwy drefnu bod cylchlythyr wythnosol a wneir gan bob dosbarth yn eu tro yn cael ei rannu ar Seesaw i rieni a gwarcheidwaid cael gweld.

 

Arfbais ein hysgol yw "Fflam yr Iaith yn Nhref y Ffwrnais" - ac mae ein dysgwyr a'n staff yn parhau i weithio'n galed i gynnal hyn yn ddyddiol.

 

Byddwn yn parhau i weithio ar ein targedau eleni.

Ein targedau yw:-

 

  • Chwarae gemau trwy gyfrwng y Gymraeg gyda'r Criw Cymraeg amser chwarae a chinio.

 

  • Gwylio rhaglenni Cymraeg-darparu adolygiadau o raglenni Cymraeg i blant yr ysgol.

 

  • Dewis yr opsiwn Cymraeg wrth ddefnyddio technoleg-siarad gyda'r adran TGCh.

 

  • Defnyddio'r Gymraeg gartref ac yn y gymuned

 

 

Following all our hard work since achieving the silver award back in 2020, we can finally announce our fantastic success of achieving the gold award in the summer term of 2023.

This is thanks to the dedication of our Criw Cymraeg, pupils and staff at our school.

 

The achievement was awarded for our amazing work in the wider community, especially the very first St David's Day concert organised and performed by our Criw Cymraeg and pupils. 

We invited our parents/guardians into our school to come and learn alongside our pupils through the medium of welsh in our " Caffi Darllen". 

The continued work on our daily podcast which is broadcasted on our established school radio, can be heard in all areas of the school, including in the yard at break and lunch times. The Criw’s weekly newsletter completed by each class in turn is shared with children, parents and guardians on Seesaw. Our school coat of arms is "Fflam yr Iaith yn Nhref y Ffwrnais"- and our learners and staff continue working hard to keep the Welsh langauge burning brightly on a daily basis.

 

We will continue to work on our targets this year.

Our targets

  • Play games through the medium of welsh with the Criw Cymraeg at break and lunch times
  • Watch Welsh programmes- review and share suggestions with each class. 
  • Chose the Welsh option when using technology-change our settings. 
  • Use Welsh at home and in the community.
Top