Neges Y Dydd
29 / 06 / 2020
Bore da ffrindiau!
Os ydych chi'n dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon i'r hwb neu i'r swigod, mwynhewch pob eiliad. Dwi'n siwr eich bod chi gyd yn gyffrous i weld eich ffrindiau a'r athrawon fel dwi'n gwybod mae nhw yn teimlo i weld chi hefyd.
Os nad ydych chi yn dychwelyd i'r ysgol, beth am gadw mewn cyswllt gyda'ch ffrindiau trwy ebost, ar y ffôn neu zoom?
Cofiwch hefyd, mae dal gweithgareddau dyddiol ar gael i chi gyd ar seesaw y cwtsh a seesaw eich dosbarthiadau.
Cwtsh mawr.
Mae hi'n Ddydd Gwener!
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn a wedi cofio rhoi elu haul ymlaen ddoe! Roedd hi'n boeth hu hwnt!
Beth am fynd draw at seesaw i wylio'r fideo a'r emosiynau a chwblhau'r tasg cyflym? Baswn yn dwli clywed eich atebion.
Mwynhewch y penwythnos ffrindiau.
I hope you are all well and i hope you remembered to put lots of sun cream on yesterday! It was very warm!
What about visiting the cwtsh seesaw page where you'll find a video explaining emotions and complete a quick task? I would love to hear your answers.
Enjoy the weekend.
Helo ffrindiau!
Pwy sydd yn hoffi tynnu lluniau?
Beth am beintio neu lliwio llun o llew cryf a hyderus fel yr un isod? Ar ôl creu y llew, meddyliwch am beth rydych chi'n hoffi amdanoch chi eich hun. Mae yna syniadau ar flew y llew. Pan rydych chi wedi dewis y rhai rydych chi eisiau defnyddio, ysgrifennwch yn yn y blew o amgylch gwyneb y llew.
Dyma enghraifft i chi:
Fe wnes i hon gan ddefnyddio y dogfen 'paint'.
Dyma fy nhempled i os hoffech chi ddefnyddio hon:
Helo ffrindiau!
Gwrandewch ar y stori isod ' A huge bag of worries' a wedyn ewch draw i seesaw y cwtsh i gwblhau'r gweithgareddau.
Listen to the story below 'A huge bag of worries' then head over to seesaw to complete the activities.
video a huge bag of worries.mp4
19 / 06 / 2020
Helo ffrindiau!
Mae hi'n Ddydd Gwener! Hwre!
Rwyf wedi ebostio eich rhieni gyda amrywiaeth o weithgareddau i chi gwblhau os nad ydych ar seesaw. Os nad ydych wedi cwblhau tasg, beth am ofyn i'ch rhieni i lawrlwytho un or docfennau rwyf wedi danfon trwy ebost?
It's Friday! Hwre!
I had sent your parents an email with a range or activities attached if you haven't completed a task on seesaw. If you haven't yet done a task, what about asking your parents to download one of the activities in the documents that I've sent via email?
Cwtsh mawr i chi gyd. Mwynhewch y penwythnos!
A big cwtch to you all. Enjoy the weekend!
18 / 06 / 2020
https://www.bbc.co.uk/bitesize/articles/zhndqp3
https://www.bbc.co.uk/bitesize/articles/znxb42p
Cliciwch ar y linc uchod i fynd a chi i’r fideo meddwlgarwch hwb.
17 / 06 / 2020
Helo ffrindiau!
Beth am glicio ar y linc isod sydd yn cymryd chi i dudalen ELSA lle y gallech chi clicio ar bob teitl glas sydd yn mynd a chi i'r gweithgaredd?
What about clicking on the link below that takes you to the ELSA page where you can click on each blue title that will take you to the activity?
16 / 06 / 2020
Helo ffrindiau!
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn. Cofiwch mae gweithgareddau ar seesaw i chi i gwblhau. Beth am ddanfon ebost imi fel ein bod ni'n gallu cael sgwrs? Fy ebost yw:
jjohn@santestudful.merthyr.sch.uk.
Cwtsh mawr i chi gyd
I hope you're all well. Remember that there are activities on seesaw to complete. What about emailing me so that we can have a chat? My email is:
jjohn@santestudful.merthyr.sch.uk
A big cwtsh to you all
Beth am brintio'r mandalas isod i liwio?
What about printing the mandalas below to colour?
Calming mandalas
15 / 06 / 2020
Helo ffrindiau!!
Roedd hi'n bleser i weld eich holl waith ar Frasil yn ystod y pythefnos diwethaf. Da iawn i chi gyd.
Plis gwnewch yn siwr eich bod chi'n ceisio ymweld â dudalen seesaw y cwtsh lle mae yna gweithgareddau yn seiliedig ar iechyd meddwl a lles. Mae hi'n bwysig eich bod chi gyd yn edrych ar ôl eich corff, lles a iechyd meddwl yn ystod yr amser yma. Rwyf wedi ebostio eich rhieni gyda'r QR côd unwaith eto rhag ofn eich bod chi'n cael trafferth ymuno. Croesi bysedd bydd mwy ohonoch chi yn ymuno cyn bo hir.
It was a pleasure to see all of your fantastic work on Brasil during the past fortnight. Well done all! Please make sure that you try to visit the cwtsh seesaw page where there are lots of activities based on your well-being and mental health. It is very important to that you try to look after your body, well-being and mental health during this time. I have emailed your parents the QR code once again in case you are having difficulty accessing the cwtsh seesaw. Fingers crossed, more will join us and start using it soon.
22 / 05 / 2020
Helo ffrindiau!
Mae hi'n Ddydd Gwener a diwrnod olaf cyn hanner tymor yn barod.
Tybed pwy byddai'n ffonio heddiw?
Ein sialens lego heddiw yw i adeiladu esgid sydd yn ffitio eich traed.
Dwi'n colli ein sesiynau yn y cwtsh yn fawr iawn a dal lan gyda eich newyddion yn ddyddiol. Gobeithio ni fydd hi'n rhy hir nes ein bod ni nôl gyda'n gilydd.
Mwynhewch yr hanner tymor gyda'ch teulu a chadw'n saff.
Pob hwyl!
21 / 05 / 2020
Bore da ffrindiau!
Edrychwch beth welais i yn yr ardd ddoe! Cywion bach titw tomos las! 😊 Maen nhw’n aros am fwyd.
trim.3FC99D94-6A0F-47DD-8A2D-92AF1486A26D.MOV
Ewch draw at seesaw i weld y gweithgareddau.
Ein sialens lego heddiw yw i adeiladu twr tal!
Pob hwyl!
20 / 05 / 2020
Bore da ffrindiau!
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn. Mae hi’n ddiwrnod braf heddiw.
Beth am wylio’r fideo isod am germau?
Cer draw at seesaw am y gweithgareddau.
Y sialens Lego heddiw yw i adeiladu pont sydd yn gallu dal rhywbeth trwm.
Pob hwyl!
CLICIWCH AR Y LINC ISOD I WYLIO'R FIDEO.
Click on the link below to watch the video.
YNA, CER DRAW AT SEESAW Y CWTSH I WELD Y WEITHGAREDD.
Then head over to the cwtsh seesaw page to see the activity.
19 / 05/ 2020
Helo bawb!
Dyma lun o waith lego Tyler. Mae o wedi creu drysfa (maze) anhygoel!
Ein sialens heddiw yw i greu awyren allan o lego.
Beth am fynd at y linc isod i gwblhau tasgau ELSA?
18 / 05 / 2020
Bore da ffrindiau!
Heddiw mae hi'n Diwrnod Ewyllys Da a heddwch yr Urdd. Mae Miss Davies wedi creu fideo i ddangos gwaith y rhai sydd wedi danfon nhw i mewn. Cadw eich llygaid mas am y fideo!
Yn ogystal â hynny, yr wythnos hon mae hi'n wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Beth am geisio sesiwn 'mindfullness' pob diwrnod yr wythnos hon? Neu beth am ioga? Mae'r ddau yn gallu helpu i gadw eich meddwl yn iach ac yn gallu lleihau teimlo'n isel.
Mae yna gweithgareddau ar seesaw y cwtsh sydd yn gallu eich helpu i gadw'ch ymwybyddiaeth eich iechyd meddwl.
Dyma sialens lego Tyler o Ddydd Gwener. Da iawn unwaith eto Tyler!
Ein sialens lego heddiw yw cynllunio ac adeiladu drysfa (Design and build a maze). Pob hwyl!
15 / 05 / 2020
Bore da ffrindiau!
Ein sialens lego heddiw yw i gynllunio ac adeiladu cartref o'ch breuddwydion ( a house of your dreams).
Dyma enfys Tyler o ddoe. Da iawn Tyler!
Siawns olaf i rannu eich negeseuon diwrnod ewyllys da heddiw. Bydd eich lluniau yn mynd mewn i fideo Diwrnod Ewyllys Da yn barod i rannu gyda chi ar Ddydd Llun.
Tybed pwy byddai'n siarad gyda ar y ffôn heddiw??
Cadw'n saff a mwynhewch y penwythnos gyda'ch teuluoedd.
14 / 05 / 2020
Helo ffrindiau!
Cer draw at seesaw y cwtsh i gwblhau gwaith emojis.
Unwaith eto mae Tyler wedi bod yn brysur gyda ein sialens lego a wedi creu castell arbennig iawn, llawn manylion. Arbennig Tyler!
Ein sialens lego heddiw yw i greu enfys allan o lego yn barod i ddangos yn y ffenestr i gefnogi ein GIG (NHS) heno pan bydden ni'n curo ein dwylo unwaith eto.
Pob hwyl?
13 / 05 / 2020
Helo ffrindiau!
Gwnewch yn siwr eich bod chi'n ymweld â seesaw y cwtsh am weithgareddau ac i glywed stori newydd.
Mae Tyler wedi bod yn brysur yn creu pethau mas o lego. Yn barod, mae o wedi creu rollercoaster a roced. Da iawn ti!
Y sialens lego heddiw yw i greu castell allan o lego.
Pob hwl!
12 / 05 / 2020
Helo ffrindiau. Gobeithio bod pawb yn iawn. Ewch draw at Seesaw y cwtsh i gyflawni’r gweithgareddau.
Pwy wnaeth y sialens lego ddoe? Rwyf wedi adio fideo isod o fy un i. Heddiw y sialens yw i adeiladu roced. Pob hwyl!
trim.80E864D5-8C7F-4F15-A800-DD618160A75B.MOV
11 / 05 / 2020
Bore da ffrindiau!
Gobeithio cafoch chi gyd penwythnos hir hyfryd gyda'ch teulu. Cafodd unrhyw un barti VE day? Oes ganddo chi luniau i rannu? Os oes, hoffwn weld eich lluniau yn fawr iawn.
Cofiwch i fynd draw at seesaw y cwtsh am dasgau newydd.
Rydw i wedi penderfynu rhoi sialens lego lan i ni wneud gyda'r gilydd fel rhan o sesiynau lego y cwtsh. Byddaf yn gosod fideo o fy ymdrech i yn ddyddiol. Gobeithio byddech chi yn rhannu rhai chi gyda fi hefyd.
Heddiw y sialens yw i gynllunio ac adeiladu 'rollercoaster'. Pob hwyl!
07 / 05 / 2020
Helo ffrindiau!
Heddiw mae hi'n Ddydd Iau felly mae hynny'n olygu mae hi'n ddiwrnod creu. Dwi'n siwr mae rhai yn poeni am beth sydd yn mynd ymlaen yn y byd ar hyn o bryd neu falle yn poeni am aelodau o'ch teulu. Heddiw rydw i eisiau i chi greu 'worry monster' eich hunain sydd yn mynd i helpu chi trwy'r adeg yma. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n defnyddio eich anghenfil i gael gwared o bethau rydych chi'n poeni am.
Ewch draw at SEESAW i glywed y stori 'The huge bag of worries'.
Dyma enghreifftiau i chi a fideo i ddangos esiampl o sut i greu un:
GWYLIWCH Y FIDEO ISOD I WELD RHYWUN YN CREU ANGHENFIL.
06 / 05 / 2020
Helo ffrindiau!
Ydych chi wedi gweld avatars yr athrawon eto? Ydych chi wedi dyfalu pwy yw pwy? Cer draw at seesaw i weld yr atebion!
Gobeithio fydd pawb yn creu avatar eu hunain. Dwi’n edrych ymlaen ar weld nhw gyd.
Hefyd, paid ag anghofio i fynd draw at seesaw y cwtsh am y gweithgareddau.
LEGO
05 / 05 / 2020
Bore da ffrindiau.
Da iawn i bawb sydd wedi gwneud poster neu fideo gwrth-fwlio. Mae Miss Davies wedi creu fideo i ddangos gwaith pawb ac mi fydd hi'n rhannu y fideo yfory. Mae eich negeseuon yn bwysig iawn ac mae'n bwysig bod pawb yn trio eu gorau glas i beidio dweud pethau gas i eraill.
Mae gweithgareddau i chi ar Seesaw. Beth am fynd i'r linc isod am weithgareddau emosiynau ELSA hwyl?
04 /05 / 2020
Bore da ffrindiau y cwtsh! May the 4th be with you!
Mae hi'n Ddydd Llun unwaith eto ac wythnos arall o weithio o'r tŷ. Ydych chi'n mwynhau gweithio o'r tŷ? Neu bydda well gyda chi fod yn yr ysgol gyda'ch ffrindiau?
Ydych chi'n dilyn sesiynau Joe Wicks yn y boreau? Mae ei gwraig wedi cymryd drosodd yr ymarfer corff am sbel achos mae ganddo fraich dost ond mae'r sesiynau dal yn mynd ymlaen.
Ewch draw ar seesaw y Cwtsh am weithgareddau heddiw.
Hwyl am y tro.
01 / 05 / 2020
Helo ffrindiau, hyfryd i glywed rhai o’ch lleisiau chi eto heddiw a ddoe. Byddaf yn parhau i drio ffonio y rhai dwi heb gael ateb gan eto. Gobeithio byddai’n gallu siarad â phawb.
Dwi’n gweld eisiau chi gyd.
Mwynhewch eich penwythnos ffrindiau.
Cwtsh mawr,
Mrs Gibbin
29 / 04 / 2020
Bore da ffrindiau!
Mae hi'n Ddydd Mercher yn barod. Dydy'r tywydd ddim yn grêt heddiw ond o leiaf mae'r blodau yn cael dŵr or diwedd. Dydy Toby ddim yn hoff iawn o'r glaw ac mae hi'n anodd iawn i gael o i fynd am dro yn y tywydd yma.
Beth am ddanfon lluniau o'ch anifeiliaid anwes chi imi i gael gweld?
Dyma Toby!!
Ydych chi wedi creu llun gan ddefnyddio pethau naturiol eto? Dyma enghreifftiau i chi.
Cofiwch i fynd draw i seesaw i gwblhau tasgau y cwtsh.
Hwyl am y tro.
28 / 04 / 2020
Helo ffrindiau y cwtsh!
Roedd hi’n hyfryd i gael glywed lleisiau rhai ddoe. Tybed pwy byddai’n ffonio heddiw?
Ydych chi wedi ymweld â dudalen seesaw y cwtsh eto?
Cofiwch hefyd am dasg gwrthfwlio yr ysgol. Mae gennych chi nes diwedd y Dydd heddiw i rannu neges neu boster gyda ni os hoffech chi fod yn fideo Miss Davies. Mae Miss Davies am rannu y fideo gyda ni gyd erbyn diwedd yr wythnos. Dwi’n edrych ymlaen at weld y fideo a’ch posteri chi.
27 / 04 / 2020
Bore da ffrindiau!
Cychwyn wythnos newydd i ni gyd. Gobeithio cafoch chi gyd penwythnos hyfryd ac eich bod chi gyd yn iach.
Heddiw, byddaf yn parhai i ffonio rhai i gael sgwrs. Tybed pwy byddai'n galw heddiw??
Gwnewch yn siwr eich bod chi'n ymweld â seesaw am fwy o weithgareddau lles.
24 / 04 / 2020
Helo ffrindiau! Dydd Gwener yn barod!
Rwyf wedi dechrau heddiw gan ffonio rhai ohonoch chi i weld sut ydych chi. Mae'n braf clywed eich lleisiau chi ar y ffôn.
Hoffwn i glywed beth rydych chi wedi bod yn gwneud yn ystod eich amser hunan ynysu. Byddaf yn parhau i ffonio chi i gael sgwrs dros y diwrnodau / wythnosau nesaf.
Mwynhewch eich penwythnos ffrindiau.
23 / 04 / 2020
Helo ffrindiau! Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn. 👍🏼😊
Yn ystod yr adeg rhyfedd yma, mae’n bwysig eich bod chi gyd yn edrych ar ôl eich iechyd meddyliol yn ogystal â iechyd eich corff. Rwyf wedi gosod tasg myfyrio (mindful meditation) ar seesaw i chi ddilyn. Gwnewch yn siwr eich bod chi gyd yn gwneud sesiynau fel hyn yn ystod eich amser gartref. Beth am ofyn i’ch rhieni i ymuno mewn?
Dyma’r link os nad ydych chi’n gallu ymuno â seesaw:
https://www.newhorizonholisticcentre.co.uk/kids-meditation.html
22 / 04 / 2020
Prynhawn da ffrindiau!
Heddiw mae hi’n ddiwrnod sbesial am ddau rheswn. Yn gyntaf, mae hi’n 3 mlynedd heddiw ers i fi priodi Mr Gibbin! Yr ail yw diwrnod y ddaear. Ydych chi wedi cyflawni unrhyw tasg awyr agored eto sydd ar ein pic n mix ni neu ar dudalen awyr agored Miss Thomas a Miss O’Malley? Cofiwch i wneud! Mae yna lwyth o weithgareddau i chi.
Cofiwch hefyd i fynd draw i seesaw y cwtsh am weithgareddau.
———————————————
Good afternoon everyone!
Today is a special day for two reasons. The first, it’s been 3 years since I married Mr Gibbin. The second is that it’s earth day. Have you completed any of the outdoor activities that are on our pic n mix page or the ones that are on the outdoor learning page from Miss Thomas and Miss O’Malley? Remember to do so. There are so many fun activities.
Remember to head over to our seesaw page for some new activities.
21 / 04 / 2020
Bore da ffrindiau!
Sut mae pawb heddiw? Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn.
Pwy sydd wedi gweld y gweithgareddau hwyl sydd ar gael ar y pic 'n' mix? Ydy rhywun wedi cyflawni rhai o'r tasgau eto? Gwnewch yn siwr eich bod chi'n trio cyflawni rhai a rhannu eich gwaith gan ddanfon lluniau i fy ebyst.
Mae yna tasgau newydd i chi ar Seesaw. Os ydych chi'n cael trafferth i ymuno, danfon ebyst imi a galla i helpu chi.
----------------------------
Good morning everyone!
How are you all? I hope you're all well.
Who's seen the fun activities on our pic 'n' mix? How anyone finished some? Make sure you try to complete some of the tasks and share them with me by sending them to my email.
There are new tasks on seesaw. If you are having problems joining, please email myself and I can help you.
My email is:
jjohn@santestudful.merthyr.sch.uk
20 / 04 / 2020
Bore da ffrindiau!
Gobeithio cafoch chi gyd basg hapus gyda'r teulu a wedi gadw'n sâff. Mae'n bwysig eich bod chi'n trafod gyda aelod o'r teulu am sut yr ydych yn teimlo yn ystod yr amser rhyfedd yma i sicrhau bod neb yn teimlo'n unig. Os ydych chi am siarad gyda fi, cofiwch gallech chi ebostio fi unrhyw bryd. Fy ebost yw jjohn@santestudful.merthyr.sch.uk
Byddaf yn gosod amrywiaeth o dasgau iechyd a lles ar Seesaw a google classroom. Mae yna amrywiaeth o weithgareddau hwyl i chi wneud yn y pic 'n' mix. Cofiwch i ddanfon unrhyw luniau o weithgareddau eraill rydych chi'n gwneud hefyd.
02 / 04 / 2020
Helo bawb!
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn?
Heno, mi fydd pawb yn sefyll ar drws ffrynt i glapio i ddangos ein bod ni'n gwerthfawrogi yr arwyr GIG sydd yn eich helpu yn ystod yr amser rhyfedd yma. Nhw yw'r rhaid sydd yn helpu gwella y pobl sydd yn dost gyda'r coronafeirws.
Gwnewch yn siwr eich bod chi gyd yn cefnogi heno. Tynnwch luniau neu fideo a danfonnwch nhw i fi. Mae dal amser i chi liwio enfys ar arddongos yn eich ffenestr.
Hello everyone!
I hope you're all ok?
Tonight, everyone will come together once again on their front door step, clapping to show their appreciation for the heroes in the NHS that are helping us at this strange and difficult time. They are the ones that are helping people to recover from the coronavirus. Mae sure you remember to support them tonight by clapping. Maybe you could take pictures or record videos and send them to us. It's now to late to colour a rainbow and display it in your window.
01 / 04 / 2020
Prynhawn da bawb!
Mis Ebrill yn barod, mis arall o'n blaenau heb eich gweld chi i gyd
Dyma gêm fach i chi chwarae gyda'r teulu:
Gêm côf i hybu sgiliau canolbwyntio.
Beth am ddefnyddio'r lluniau sydd ar Google Classroom i chwarae gêm côf?
Opsiwn arall yw defnyddio adnoddau ac eitemau sydd o amgylch y tŷ.
Rhowch yr adnoddau tu fewn i focs neu ar hambwrdd. Dechreuwch gyda 3/4 cyn cynyddu.
Gofynnwch i rywun yn y teulu i dynnu un peth i ffwrdd. Ydych chi'n gallu dyfalu beth sydd ar goll?
Pob lwc!
Gwnewch yn siwr eich bod chi'n edrych ar Seesaw y cwtsh a Google Classroom y cwtsh!
Good afternoon everyone!
April already and the prospect of another month ahead of us without seeing you all
Here is a game that you can play with your family:
Memory game to improve concentration skills.
Why not print out the pictures on Google Classroom to use for your memory game?
Alternatively, you can use a variety of objects around the house.
Place the pictures or objects in a box or on a tray, begin with 3/4 and build it up.
Have someone remove an item without you seeing.
Can you guess what is missing?
Good luck!
Make sure that you check the cwtsh Seesaw page and the cwtsh Google classroom page for activities!
31 / 03 / 2020
Helo ffrindiau!
Gobeithio eich bod chi gyd yn cael amser trafod gyda’r teulu. Cofiwch mae trafod eich teimladau yn bwysig. Hefyd, peidiwch ag anghofio i rannu un peth da am y Dydd gyda’ch teulu.
Hoffwn i ofyn i chi i ddefnyddio’r amser yma i holi eich teulu i ddanganfod mwy amdanyn nhw e.e.
Beth yw dy hoff liw?
Beth yw dy hoff fwyd?
Beth yw dy hoff ffrwyth?
Beth yw dy hoff wlad yn y byd?
Beth yw dy hoff gar?
Beth yw dy hoff anifail?
ac yn y blaen.
Beth am recordio’r sgwrs a danfon e imi? Pob hwyl!
Helo everyone!
I hope you’re all having some time to have discussions with your family. Remember it’s important to talk about your feelings. Also, don’t forget to continue to share your good news of the day with your family.
I would like you to use this time to get to know your family a little better. Find out what their favourite things are, such as:
What’s your favourite colour?
What’s your favourite colour?
What’s your favourite food?
What’s your favourite fruit?
What’s your favourite country?
What’s your favourite car?
What’s your favourite animal?
and so on.
What about recording your conversations and send them to me? Have fun!
30 / 03 / 2020
Prynhawn da bawb!
Gobeithio cafoch chi gyd penwythnod da gyda'r teulu.
Dwi wedi ychwanegu tasgau i chi ar Google Classroom ac ar Seesaw.
Dwi eisiau atgoffa chi hefyd, os ydych chi'n becso neu'n poeni am unrhyw beth, siaradwch gyda'ch rhieni a'r teulu i weld os ydyn nhw'n gallu helpu. Plîs peidiwch â phoeni, i ni gyd yma i chi.
Cadwch yn ddiogel ffrindiau!
Good afternoon everyone!
I hope you all had a lovely weekend with your families.
I had added some activities to the Google Classroom and also the Seesaw.
I also want to remind you, if you are feeling worried about something or anxious at all, please speak to a member of your family, they might be able to help. A problem shared is a problem halved. Please try not to worry, we are all here for you.
Keep safe!
27/03/20
Bore da ffrindiau!
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ac yn hapus. Mae hi’n rhyfedd iawn i beidio gweld eich gwynebau pob Dydd. Dwi’n colli chi gyd yn fawr iawn.
Beth am ddefnyddio’r diwrnod braf yma i gasglu pethau o’r ardd neu tŷ i greu llun gwyneb hapus. Danfonwch y lluniau imi i gael dangos nhw i bawb i godi calonnau ein ffrindiau.
Cwtsh mawr i chi gyd :)