Yr Urdd/ The Urdd
Pob lwc i bawb a gymerodd rhan yn yr Eisteddfod T!
Eisteddfod T ydi Eisteddfod yr Urdd mewn fformat rhithiol sy'n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ledled Cymru a thu hwnt i gystadlu o'u cartrefi. Yn 2021, mae Eisteddfod T yn ei ôl!
“Cymerwch eich sedd ar y soffa, tawelwch eich ffôn, a rhowch bob chwarae teg i’r cystadleuydd nesa’ – mae Eisteddfod T yn ei ôl!”
Yn giamstar ar ganu neu ddweud jôc, yn feistr lip-sync neu’n hoff o ddynwared enwogion? O’r traddodiadol i TikTok, mae’r Urdd am gynnal gŵyl ddigidol yn ystod hanner tymor y Sulgwyn am yr ail flwyddyn yn olynol, ac mae Eisteddfod T am fod yn “fwy arbrofol, blaengar a chyffrous nac erioed o’r blaen!”
Darlledir Eisteddfod T ar S4C, Radio Cymru ac ar draws sawl platfform digidol ar y Cyfryngau Cymdeithasol o ddydd Llun 31 Mai hyd 4 Mehefin felly cofiwch wylio! Bydd sialensiau dyddiol yn ystod wythnos Eisteddfod T a bydd y rhain yn cael ei lansio’n ddyddiol yn ystod y darllediad yr Eisteddfod ar S4C.
Yn y cyfamser, dilynwch ffrwd trydar a Facebook Eisteddfod yr Urdd er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau a chyhoeddiadau Eisteddfod T.
Good luck to everyone that has taken part in the Eisteddfod T!
Urdd Eisteddfod, but not as you know it.
Eisteddfod T is a virtual festival held for the first time in 2020 during the lockdown period, giving children and young people from Wales and beyond a chance to take part in a virtual, fun-filled Eisteddfod from the comfort of their homes.
“Make yourself comfortable on the sofa, switch your mobiles to silent, and give it up for the next contestant… Eisteddfod T is back!”
Singing, lip-syncing and celebrity impersonations – from the traditional to TikTok, Urdd Gobaith Cymru have announced that Eisteddfod T is back for the second year running and the organisers promise a “more experimental, progressive and exciting festival than ever before” to be held during Whitsun half-term.
Cylchgronau'r Urdd/ Urdd Magazines
Mae holl gylchgronau’r Urdd nawr ar gael yn ddigidol ac am ddim! Bore da a Cip yw'r cylchgronau ar gyfer plant cynradd.
Dewiswch gylchgrawn (neu beth am ddewis y tri!) i gael pob rhifyn yn syth i dy ebost.
Dilynwch y cyswllt isod.
Urdd magazines are now digital and free. Receive one, or both, completely free and sent straight to your inbox! Bore da and Cip are the magazines for Primary aged children.
Click on the link below.
Cylchgrawn Bore Da! /Bore Da! Magazine
Am y cylchgrawn
Mae Bore Da yn gylchgrawn cyfoes, lliwgar, a hollol unigryw i ddysgwyr ifanc Cymru yn llawn erthyglau cyffrous, posau, straeon darllenwyr, ryseitiau, cyfweliadau enwogion, cystadlaethau, a thudalennau addysgiadol. Tipyn o bopeth! Mae darllen Bore Da yn gyfle gwych i blant ymarfer eu sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn Gymraeg a hynny thrwy bynciau cyfoes o ddiddordeb i ddysgwyr ifanc.
I bwy mae Bore Da?
Mae Bore Da yn addas i blant cynradd sy'n ddysgwyr neu'n siaradwyr ail-iaith, ac yn adnodd gwych i athrawon ddefnyddio i ddatblygu sgiliau darllen disgyblion.
About the magazine
Bore Da is a colourful, modern, unique magazine for Welsh learners packed with exciting articles, puzzles, reader stories, recipes, celebrity interviews, competitions, and educational pages. A bit of everything! Reading Bore Da is a great opportunity for children to practice their oral and written skills in Welsh through exciting topics that are relevant to our young readers.
Who is Bore Da for?
Bore Da is suitable for primary school children who are learners or second language speakers, and is a great resource for teachers to use to develop pupils' Welsh skills.
Cylchgrawn Cip/ Cip Magazine
Cystadlaethau, posau, gwobrau, cartŵns, straeon, jôcs, sêr, llythyron, erthyglau, posteri... a mwy!
Competitions, puzzles, prizes, cartoons, stories, jokes, celebs, letters, articles, posters ... and more!
Cip is full of Cip's friends, the crazy Y Slebogiaid comic strip, Seren and Sbarc stories, recipes and crafts, puzzles and quizzes, readers' stories and more.