Symud i Rydywaun/ Moving to Rhydywaun
Mae gan Ysgol Santes Tudful gysylltiad da gydag Ysgol Rhydywaun. Mae rhaglen pontio drylwyr gan yr Ysgol Gyfun sydd yn paratoi ein disgyblion ar gyfer eu dechreuad newydd ym mlwyddyn 7.
Yn ystod eich amser ym Mlwyddyn 4 fe fyddwch chi’n cael blas ar fywyd Rhydywaun ac yn ymweld â’r ysgol am hanner diwrnod.
Ym Mlwyddyn 5 byddwch yn mynd am ddiwrnod ac yn cael profiad o wersi.
Cynhelir noson agored i rieni plant Blwyddyn 6 lle mae staff Rhydywaun yn cynnal cyflwyniad am yr ysgol ac yn ateb cwestiynau. Mae hwn yn digwydd yn nhymor yr Hydref.
Trwy gydol y flwyddyn ym Mlwyddyn 6 fe fyddwch chi’n dod i adnabod rhai athrawon Rhydywaun gan eu bod nhw’n dod ac yn addysgu gwersi yn Ysgol Santes Tudful. Mae’r gwersi yma yn ddiddorol ac yn hwylus. Cyfle gwych i chi gyflwyno eich hunain.
Yn nhymor yr haf, byddwch yn mynd gyda’ch athrawon i Rydywaun am ddau ddiwrnod. Byddwch chi’n cael y cyfle i gwrdd â’ch cyd ddisgyblion o ysgolion cynradd eraill ac yn mwynhau gwersi gyda nhw. Yn ystod y deuddydd yma byddwch chi’n dod i adnabod eich athro neu athrawes gofrestru. Dyma’r athro/athrawes bydd yn cofrestru chi pob bore.
Hawl i holi!
Dwywaith yn ystod eich amser ym Mlwyddyn 6, mae prif swyddogion Rhydywaun, plant hŷn yr ysgol yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb - Hawl i holi. Mae clywed gan ddisgyblion Rhydywaun eu hunain yn werthfawr iawn ac yn gyfle i chi drafod bywyd Rhydywaun o ochor plentyn.
Am wybodaeth bellach ac i weld fideos amrywiol, ewch i dudalen Blwyddyn 6 ar wefan Ysgol Rhydywaun. Cliciwch ar y logo!