Gwybodaeth Coronavirus
Y cyngor cenedlaethol, fel ar heddiw (13 Mawrth 2020) yw i bethau barhau fel y maent, ond roeddwn i am eich sicrhau chi bod yr awdurdod lleol yn monitro’r datblygiadau’n ofalus, yn lleol ac yn genedlaethol. Yn y cyswllt hwn, mae’r awdurdod lleol wrthi’n datblygu strategaeth i sicrhau bod cynlluniau ac adnoddau effeithiol ar gael i ymateb yn briodol wrth i’r sefyllfa newid.
Er gwybodaeth, mae llawer o gyngor ar gael i’r cyhoedd ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â coronafeirws.
At hyn, mae cyngor mwy penodol i rieni a gofalwyr i’w gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn yn eich annog i edrych ar y wefan yn rheolaidd. Mae rhagor o gyngor cyffredinol ynghylch teithio i’r DU neu o’r DU i’w weld ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO).
Yn y cyfamser, mae’ch cymorth fel rhieni/gofalwyr yn hanfodol i’n strategaeth ar gyfer atal coronofeirws rhag ymledu. Rhaid i mi bwysleisio eto mai’r ffordd orau o beidio â chael eich heintio yw drwy ofalu’ch bod yn cadw’ch dwylo’n lân.
Felly, dywedwch wrth eich plant am olchi’u dwylo:
- cyn gadael y cartref;
- wrth gyrraedd yr ysgol;
- ar ôl defnyddio’r toiled;
- cyn paratoi bwyd;
- ar ôl amseroedd egwyl ac ar ôl cymryd rhan mewn chwaraeon;
- cyn bwyta bwyd, gan gynnwys byrbrydau;
- cyn gadael yr ysgol; ac
- wrth ddychwelyd adref o’r ysgol.
Dywedwch wrth eich plant hefyd am:
- beidio â chyffwrdd â’u llygaid, eu trwyn a’u ceg os nad ydyn nhw wedi golchi’u dwylo; ac
- osgoi cyffwrdd â phobl sy’n wael.